COFNODION

 

Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Pobl Fyddar

 

Dydd Gwener 30 Mehefin 2023

 

10.00am – 11.30am

 

Noddwyd y cyfarfod gan Mark Isherwood AS

 

Yn bresennol:        Mark Isherwood AS (Cadeirydd)

 

Rob Wilks (Ysgrifennydd)

 

Alison Bryan

 

Cath Booth (Cyflawni Gyda'n Gilydd)

 

Hannah Winters (Ysbyty Prifysgol Cymru)

 

Helen Foulkes

 

Jacqui Bond (Gweithiwr Cymdeithasol i Bobl Fyddar)

 

Lisa Wilcox (Cymdeithas Brydeinig Athrawon Pobl Fyddar, neu BATOD)

 

Mark Davies

 

Martin Griffiths

 

Nigel Williams (Grŵp Cymorth Mewnblaniad yn y Cochlea De Cymru)

 

Polly Winn (Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw, neu RNID)

 

Sarah Matthews (Y Ganolfan Arwyddo, Golwg a Sain)

 

Tony Evans (dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain/Saesneg)

 

Ymddiheuriadau: Dawn Sommerlad (Y Ganolfan Arwyddo, Golwg a Sain)

 

Gareth Foulkes

 

Llyr Gruffydd AS

 

Peredur Owen Griffiths AS

 

Margaret Buchanan Geddes (Cynghorydd ar gyfer DeafBlind UK)

 

Dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain/Saesneg:    Julie Doyle, Dehonglydd Iaith Arwyddion Cofrestredig; Samantha Hopkins, Dehonglydd Iaith Arwyddion Cofrestredig

 

 

Cofnodydd Lleferydd-i-Destun:        Hilary McLean

 

 

 

 

Cofnodion y cyfarfod diwethaf

 

Gan nad oedd unrhyw gofnodion wedi'u cynhyrchu gan yr Ysgrifenyddiaeth flaenorol, cafodd yr eitem hon ei hepgor. Bydd y Cadeirydd yn gwirio ei gofnodion i weld a yw wedi’u cael.

 

Cam i’w gymryd: Y Cadeirydd i wirio a yw wedi cael cofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

 

Materion sy’n codi


 

 

 

1


Dim

 

 

Ethol Ysgrifenyddiaeth newydd

 

Penodi Dr Rob Wilks o Brifysgol Caerdydd yn Ysgrifennydd y Grŵp Trawsbleidiol am weddill y sesiwn bresennol.

 

Yr unig enwebiad ar gyfer rôl Ysgrifennydd y grŵp oedd Dr Rob Wilks o Brifysgol Caerdydd. Gwnaeth y Cadeirydd atgoffa’r rai a oedd yn bresennol fod yn rhaid i'r Cadeirydd a'r Ysgrifennydd gael eu hail-ethol yn flynyddol. Felly, byddai penodiad Rob Wilks yn para am weddill y flwyddyn gyfredol, cyn y cyfarfod cyffredinol blynyddol nesaf.

 

Cynigiodd Tony Evans y dylid penodi Rob Wilks yn Ysgrifennydd y grŵp, a chafodd y cynnig hwn ei eilio gan Martin Griffiths. Etholwyd Rob Wilks yn Ysgrifennydd y grŵp tan y cyfarfod cyffredinol blynyddol nesaf.

 

Cam i’w gymryd: Yn sgil penodi Rob Wilks yn Ysgrifennydd y grŵp, bydd ef yn rhoi gwybod i’r Swyddfa Gyflwyno am hynny.

 

Anweledigrwydd oedolion dall a byddar yng Nghymru

 

Margaret Buchanan Geddes [yn absennol]

 

Yn absenoldeb Ms Buchanan Geddes, darparodd y Cadeirydd grynodeb o’r cynnig, fel a ganlyn:

 

Mae nifer yr oedolion yng Nghymru sydd o oedran gweithio neu sy’n iau ac sydd â nam deuol ar eu synhwyrau yn parhau i gynrychioli tua 0.002 y cant o'r boblogaeth. Bydd un o bob 40,000 o fabanod a enir yng Nghymru yn fyddar ac yn ddall neu â nam deuol ar eu synhwyrau. O'r ffigurau hyn, mae gan 0.02 y cant raddau amrywiol o fyddardod a dallineb, ac annibyniaeth. Dadleuir bod anghenion pobl fyddar a dall yng Nghymru yn cael eu hanwybyddu gan y Llywodraeth, yn enwedig o ran dylunio trafnidiaeth fodern a chynllunio gorsafoedd. Hoffai'r aelod weld y Cadeirydd yn ysgrifennu at Weinidog ar ran y grŵp er mwyn cael ymateb i'r materion a godwyd.

 

Awgrymodd Helen Foulkes fod angen i’r llythyr sôn am hyfforddiant ar gyfer tywyswyr cyfathrebu a darpariaeth ar gyfer pobl ddall a byddar. Dywedodd hefyd y byddai’n dymuno sicrhau bod y llythyr yn cynnwys ystadegau yn cadarnhau nifer y tywyswyr cyfathrebu proffesiynol ar gyfer pobl ddall a byddar sy’n gweithredu yng Nghymru.

 

Awgrymodd Mark Davies y byddai Martin Griffiths (a oedd yn bresennol), fel rheolwr newydd Cymru ar gyfer Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain (BDA), efallai’n dymuno cyfrannu at y drafodaeth hon.

 

Cadarnhaodd Martin Griffiths fod cynnwys e-bost Ms Buchanan Geddes yn gywir, a'i bod yn ymddangos bod yna amryfusedd o ran pobl ddall a byddar. Mae cryn ffocws ar bobl â nam ar eu golwg ac ar bobl fyddar. Fodd bynnag, o ran pobl ddall a byddar, ymddengys fod bwlch nad yw'n cael ei lenwi. Felly, yn amlwg, mae hi wedi nodi rhai ffigurau. Mae Martin Griffiths yn un o’r 40,000 o bobl a gafodd eu geni â nam deuol ar y synhwyrau sydd wedi gwaethygu dros y blynyddoedd. Serch hynny, nid yw’r ffigurau hyn yn cynnwys pobl sy’n dod yn fyddar ac yn ddall, ac felly mae’r nifer go iawn yn uwch. Wrth symud ymlaen, mae’n rhan o strategaeth Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain i ganolbwyntio ar bobl ddall a byddar yn y DU, sef y rhai y mae Iaith Arwyddion Prydain yn iaith gyntaf iddynt, gan nad yw Deafblind UK, er enghraifft, yn darparu ar gyfer pobl sy’n defnyddio iaith arwyddion. Felly, mae llawer o waith i’w wneud.

 

Cam i’w gymryd: Bydd yr Ysgrifennydd yn ysgrifennu llythyr at Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ar ran y grŵp.

 

Cyfarfodydd yn y dyfodol

 

Helen Foulkes

 

Gwnaeth y Cadeirydd grynhoi eitem Helen Foulkes ar yr agenda fel a ganlyn:


 

 

 

2


Awgrymodd Ms Foulkes fod yr Ysgrifennydd yn trefnu cyfres o siaradwyr ar gyfer cyfarfodydd y grŵp yn y dyfodol, a hynny at ddibenion rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r grŵp am weithgareddau amrywiol sy'n ymwneud â materion sy’n gysylltiedig â phobl byddar ac Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru. Roedd y siaradwyr a gafodd eu hawgrymu yn cynnwys:

 

        Suki Wescott, Rheolwr Polisi Anabledd ac Iaith Arwyddion Prydain, Llywodraeth Cymru

 

        Gaye Hampton, y Tasglu Hawliau Anabledd a’r Bwrdd Cynghori ar Iaith Arwyddion Prydain

        Eleri Goldsmith, Pennaeth Datblygu’r Cwricwlwm, Llywodraeth Cymru

        Grŵp Ymchwil Cymru ynghylch Iaith Arwyddion Prydain a Materion Pobl Fyddar

 

Efallai y bydd angen cynyddu hyd cyfarfodydd y grŵp yn y dyfodol i oddeutu awr a hanner er mwyn darparu ar gyfer hyn, ac efallai y bydd angen rhoi slot o 20-30 munud i’r siaradwyr ym mhob cyfarfod.

 

Gan nodi ei bod hithau yng ngogledd Cymru, dywedodd Helen Foulkes fod rhaniad yn bodoli rhwng gogledd a de Cymru, ac felly nid yw llawer o bobl yn ymwybodol o’r hyn sy'n mynd ymlaen. Nododd y byddai’r cyfarfodydd hyn, yn sgil y ffaith bod yr holl grwpiau ar wahân hyn yn bodoli, yn gyfle perffaith i drafod yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru.

 

Roedd Polly Winn (Rheolwr Materion Allanol newydd Cymru yr RNID) yn cytuno â’r cynnig hwn gan fod llawer o gydweithio yn digwydd mewn meysydd ffocws gwahanol, a byddai’n wych defnyddio’r gyfres hon o siaradwyr fel cyfle i alinio’r gwaith hwnnw. Mae'r RNID a Chymdeithas Pobl Fyddar Prydain ar hyn o bryd yn gweithio gyda'r grŵp cydraddoldeb yn Adran Iechyd Llywodraeth Cymru i adolygu Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Darparu Gwybodaeth Hygyrch. Mae cyfres o weithdai wedi'u cynnal, ac mae'r olaf ohonynt ddydd Llun. Rydym bellach yn nodi’r camau nesaf ar gyfer y darn hwnnw o waith. Gallai hyn fod o ddiddordeb i'r grŵp, a gellid trefnu siaradwr i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf. Dywedodd Tony Evans ei fod wedi gwneud cyflwyniad i diwtoriaid meddygon teulu o bob rhan o Gymru yn ddiweddar ynghylch sut i weithio gyda dehonglwyr, ac nid oedd yr un ohonynt wedi clywed am Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Darparu Gwybodaeth Hygyrch.

 

O ran dehonglwyr, awgrymodd y Cadeirydd y dylid ychwanegu Cymdeithas Dehonglwyr Iaith Arwyddion/Gweithwyr Proffesiynol Iaith Weledol, a hysbysu Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain ynghylch Archwiliad Llywodraeth Cymru o Siarter Iaith Arwyddion Prydain. Roedd hyn o gofio bod y Cadeirydd wedi tynnu sylw Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, at yr angen am Ddeddf Iaith Arwyddion Prydain, a bod y Cadeirydd wedi cael ei gyfeirio at waith Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod Deddf Iaith Arwyddion Prydain Senedd y DU yn rhoi pwerau i Weinidogion y DU mewn perthynas â materion cyffredinol sy’n berthnasol yn Lloegr, ond nid yw'n berthnasol i faterion datganoledig. Mae angen i Weinidogion Llywodraeth Cymru gael cyfrifoldebau a phwerau cyfatebol, a byddai angen deddfwriaeth i Gymru er mwyn sicrhau hynny. Cafodd y Cadeirydd gefnogaeth yn Siambr y Senedd i’r cynnig am Fil o’r fath. Ni phleidleisiodd unrhyw un yn erbyn y cynnig, gyda’r Gweinidogion yn ymatal fel y gwnânt fel arfer, ac eraill ar draws y pleidiau yn pleidleisio o’i blaid. Mae angen cyfle arno i gynnig Bil Aelod er mwyn bwrw ymlaen â hyn, gan nad yw Llywodraeth Cymru wedi cynnwys mesur o’r fath yn ei rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y 12 mis nesaf. Felly, byddai'n ddefnyddiol clywed gan Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain o ran hynt ei hymgysylltiad â Llywodraeth Cymru ar y mater hwn.

 

Cadarnhaodd Martin Griffiths fod Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain wedi trefnu cyfarfod gyda Suki Westcott a Wayne Cornish yn Is-adran Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru ar 13 Gorffennaf 2023, ac roedd o’r farn y byddai rhywfaint o gynnydd.

 

Ychwanegodd y Cadeirydd ei fod yn byw yn Sir y Fflint yng Ngogledd Cymru, ac y dylai unrhyw aelod o'r Grŵp Trawsbleidiol sydd am ddod draw i gael paned a sgwrs roi gwybod iddo.

 

Roedd Tony Evans o’r farn bod cynnig Helen Foulkes yn syniad ardderchog. Dywedodd fod y cyfarfodydd hyn, yn hanesyddol, wedi bod braidd yn ddryslyd, ac felly mae’n bosibl y byddai angen newid diben cyfarfodydd y grŵp. Serch hynny, wrth i gyfarfodydd symud ar-lein ac wrth iddynt ddod yn fwyfwy hygyrch i lawer yng ngogledd a chanolbarth Cymru, mae angen gwneud defnydd o hynny. Mae gennym adnoddau rhagorol ledled y wlad, ac mae hon yn ffordd wirioneddol ddefnyddiol o rwydweithio a sicrhau bod y bobl hyn yn cael eu cynnwys, bod eu lleisiau'n cael eu clywed a'n bod yn trafod pwyntiau perthnasol.

 

Awgrymodd y Cadeirydd y dylid gwahodd Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, i un o gyfarfodydd y grŵp yn y dyfodol agos – cam gweithredu a ddylai fod yn bosibl gyda digon o rybudd.


 

 

3


Cadarnhaodd yr Ysgrifennydd ei fod wedi bod yn rhan o drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru am y cynlluniau ar gyfer Deddf Iaith Arwyddion Prydain. Ar hyn o bryd, ymddengys mai’r cynllun fydd ei chynnwys yn yr agenda ar gyfer tymor nesaf y Senedd, o 2026 ymlaen, gan fod yr agenda ddeddfwriaethol ar gyfer y Senedd hon eisoes yn llawn. Mae'n hapus i edrych ar y broses o drefnu siaradwyr wrth symud ymlaen. Mae'n bwriadu cadarnhau’r dyddiadau ar gyfer y 4 cyfarfod nesaf, ac yna bydd modd iddo drefnu'r siaradwyr. Dylech anfon neges e-bost os oes gennych unrhyw syniadau pellach ar gyfer siaradwyr.

 

Awgrymodd y Cadeirydd ein bod yn sicrhau bod siaradwyr perthnasol hefyd yn cael eu gwahodd ar gyfer pobl sy’n drwm eu clyw ond nad ydynt, o bosibl, yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain – pobl sydd â phroblemau cwyr yn eu clustiau, er enghraifft. Cadarnhaodd Polly Winn fod problemau yn ymwneud â chwyr yn y clustiau yn faes ffocws pwysig i'r RNID ar hyn o bryd.

 

Cam i’w gymryd: Yr Ysgrifennydd i drefnu siaradwyr ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol, a threfnu cyfarfodydd gyda digon o rybudd i annog Aelodau o’r Senedd i fod yn bresennol.

 

Presenoldeb Aelodau o’r Senedd

 

Alison Bryan

 

Gwnaeth y Cadeirydd grynhoi eitem Alison Bryan ar yr agenda fel a ganlyn:

 

Mae Ms Bryan yn nodi ei bod yn ymddangos mai’r Cadeirydd yw’r unig Aelod o’r Senedd sy’n dod i gyfarfodydd y Grŵp. Mae’n gofyn tybed a oes unrhyw beth y gallem/dylem ei wneud yn hyn o beth i sicrhau bod Aelodau eraill yn dod er mwyn cynyddu eu hymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â phobl fyddar yng Nghymru.

 

Ychwanegodd Ms Bryan ei bod hi o’r farn y dylem gael pedwar Aelod o’r Senedd yma. A ydynt yn darllen ein cofnodion?

 

A ydynt yn gallu cyfrannu?  Beth yr ydym ni am ei wneud fel rhan o'r grŵp hwn?

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd fod Aelodau o’r Senedd, ar y cyfan, yn eithaf prysur gyda busnes y Senedd, gan gynnwys gwaith y pwyllgorau, gwaith yn eu hetholaethau, cyfarfodydd eraill ac ati. Yn ogystal, mae 70 o grwpiau trawsbleidiol yn bodoli, ond dim ond 60 o Aelodau, ac nid yw aelodau’r Llywodraeth yn aelodau ffurfiol o grwpiau trawsbleidiol. Felly, mae pwysau mawr arnynt yn gyffredinol. Mae'r Cadeirydd yn cadeirio saith grŵp trawsbleidiol. Mae denu sylw’r Aelodau bob amser yn broses gystadleuol. Mae'n bwysig sicrhau bod gwahoddiadau i gyfarfodydd yn cael eu dosbarthu ymhell ymlaen llaw, ac mae hynny’n dibynnu ar agwedd ragweithiol yr ysgrifennydd. Mae rhai grwpiau'n penodi dirprwy gadeiryddion er mwyn ehangu lefelau cyfranogiad. Felly, gallai hynny fod yn rhywbeth i'w ystyried wrth symud ymlaen. Rhaid i bob grŵp trawsbleidiol gael o leiaf tri Aelod o’r Senedd yn cynrychioli o leiaf ddwy blaid.

 

Cytunodd Polly Winn y byddai penodi dirprwy gadeiryddion yn gam defnyddiol, gan nodi ei bod hi wedi gweld hyn yn digwydd mewn grwpiau trawsbleidiol eraill.

 

Bu peth trafodaeth ynghylch a ddylid cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb ar gyfer y grŵp, neu gyfarfodydd ar-lein ar Zoom, neu gyfarfodydd hybrid. Cytunwyd y byddai’r cyfarfodydd yn parhau i gael eu cynnal ar Zoom, gan fod hynny’n golygu bod aelodau o’r grŵp yng nghanolbarth a gogledd Cymru yn gallu eu mynychu.

 

Cam i’w gymryd: Bydd cyfarfodydd y Grŵp Trawsbleidiol yn parhau i gael eu cynnal ar Zoom ar gyfer y dyfodol y gellir ei ragweld.

 

 

TGAU mewn Iaith Arwyddion Prydain

 

Mark Davies/Tony Evans

 

Gwnaeth y Cadeirydd grynhoi’r eitem hon ar yr agenda fel a ganlyn:

 

Cododd Mark Davies (cyn ymddiriedolwr y Ganolfan Arwyddo, Golwg a Sain ym Mae Colwyn) a Tony Evans y pwnc dan sylw, sef y cymhwyster TGAU mewn Iaith Arwyddion Prydain a fydd yn cael ei gyflwyno yn Lloegr ym mis Medi 2025. Mae'r Adran Addysg yn Llundain wedi lansio ymgynghoriad cysylltiedig.

 

O ran cyd-destun, mae’n werth nodi bod Cymwysterau Cymru bellach wedi cyhoeddi y bydd cymhwyster TGAU mewn Iaith Arwyddion Prydain wedi’i deilwra i Gymru: https://cymwysterau.cymru/rheoleiddio-a-diwygio/diwygio/cymwys-ar-gyfer-y-dyfodol/tgau-gwneud-i-gymru/


 

4


Mae’n bosibl y bydd yr eitem agenda hon  yn canolbwyntio bellach ar y cymhwyster TGAU mewn Iaith Arwyddion Prydain i Gymru.

 

Soniodd Mark Davies am ei waith mewn perthynas â’r cymhwyster TGAU mewn Iaith Arwyddion Prydain yn Lloegr hyd yma.

 

Awgrymodd y Cadeirydd y gallai'r Grŵp ysgrifennu at sefydliad Cymwysterau Cymru, gan dynnu sylw at unrhyw faterion penodol y dylid rhoi sylw iddynt.

 

Cododd Tony Evans ei bryderon ynghylch pwy fydd yn addysgu'r cymhwyster TGAU newydd mewn Iaith Arwyddion Prydain. Mae Lloegr wedi cyhoeddi y bydd y TGAU newydd mewn Iaith Arwyddion Prydain ar gael o fis Medi 2025. Gan nad oes digon o athrawon byddar i addysgu Iaith Arwyddion Prydain mewn ysgolion lle disgwylir i’r nifer sy’n cymryd rhan fod yn uchel, mae’n bosibl iawn y caiff athrawon sy’n clywed eu recriwtio i addysgu Iaith Arwyddion Prydain. Mae’n bosibl na fydd gan yr athrawon hynny y lefel ofynnol o sgiliau yn y maes i wneud hynny.  Ni fyddai hyn byth yn digwydd gyda'r Gymraeg. Mae gennym sefyllfa o hyd lle mae plant sy’n fyddar o’u genedigaeth, plant yn y blynyddoedd cynnar, babanod, a phlant iau, yn dioddef yn sgil amddifadedd ieithyddol. Nid yw'r athrawon na’r cymorthyddion sy'n cydweithio â nhw yn rhugl mewn Iaith Arwyddion Prydain. Felly, nid ydym yn datblygu cenhedlaeth o bobl sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a dyma’r mater y dylem ganolbwyntio arno yn gychwynnol. Hoffai Tony Evans weld y grŵp yn ysgrifennu at CBAC ac at y pwyllgorau sy’n trafod y cymhwyster TGAU newydd mewn Iaith Arwyddion Prydain, gan ddweud, er bod y nod hwn yn un gwych ac yn union y cam yr ydym am ei weld, mae’n rhy gynnar. Ni allwch ruthro i mewn i gymhwyster TGAU newydd mewn Iaith Arwyddion Prydain BSL yn 2024 pan nad oes gennym ddigon o bobl sy'n rhugl mewn Iaith Arwyddion Prydain i gefnogi'r plant byddar sydd yn ein hysgolion. Os nad oes modd inni gefnogi ein plant byddar, pam fyddem yn rhoi blaenoriaeth i addysgu plant sy'n clywed ac na fyddant byth, o bosibl, yn defnyddio TGAU mewn Iaith Arwyddion Prydain?

 

Cytunodd Lisa Wilcox o Gymdeithas Brydeinig Athrawon Pobl Fyddar (BATOD) gyda Tony Evans, gan ddweud bod athrawon plant byddar yn cael ceisiadau gan athrawon eraill am adnoddau addysgu a’r defnydd o YouTube, ac ati. Yn gyntaf, mae angen creu sylfeini.

 

Awgrymodd y Cadeirydd fod yr Ysgrifennydd yn nodi’r sylwadau hynny, ac unrhyw sylwadau eraill, mewn llythyr i’w anfon at bwyllgor addysg y Senedd, sy’n craffu ar y mater hwn, ac at CBAC a sefydliad Cymwysterau Cymru, sydd â chyfrifoldeb cyffredinol. Gallwn hefyd ddwyn y mater hwn i sylw Jane Hutt AS pan fyddwn yn ysgrifennu ati er mwyn ei gwahodd i un o gyfarfodydd y grŵp.

 

Cam i’w gymryd: Yr Ysgrifennydd i ysgrifennu llythyr at bwyllgor addysg y Senedd, CBAC a sefydliad Cymwysterau Cymru.

 

Diwrnod Rhyngwladol Ieithoedd Arwyddion / Shine a Light Gareth Foulkes

 

Gwnaeth y Cadeirydd grynhoi eitem Mr Foulkes ar yr agenda fel a ganlyn:

 

Bydd Diwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar Ieithoedd Arwyddion yn cael ei gynnal ar 22 Medi 2023. Yn 2022, gweithiodd grŵp o unigolion byddar angerddol o Gymru gyda’i gilydd at ddibenion gofyn i wahanol adeiladau cyhoeddus yng Nghymru i gynnau golau glas er mwyn codi ymwybyddiaeth ynghylch iaith arwyddion ledled y byd, yn enwedig yng Nghymru, lle mae Iaith Arwyddion Prydain yn cael ei defnyddio’n gyffredin gan aelodau o'r gymuned fyddar a'u cynghreiriaid.

 

Roedd y rhestr o sefydliadau a wnaeth gynnau golau ym mis Medi 2022 fel a ganlyn:

 

        Canolfan Alun R Edwards a’r Bandstand yn Aberystwyth, Cyngor Sir Ceredigion

 

        Canolfan Celfyddydau’r Chapter, Caerdydd

        Tŵr Faraday, Prifysgol Abertawe

        Y Prif Adeilad, Prifysgol Caerdydd

        Athletau Cymru

        Prifysgol Bangor


 

5


        Cyngor Sir Gaerfyrddin

 

        Cyngor Sir Powys

        Tŷ Crawshay, Campws Trefforest, Prifysgol De Cymru

        Cyngor Sir Ynys Môn / Isle of Anglesey County Council

 

Gofynnodd Mr Foulkes a oedd y grŵp yn dymuno cefnogi’r fenter hon ar gyfer 2023.

 

Cytunodd pawb fod y grŵp yn hapus i gefnogi’r fenter hon ac i ofyn i Gareth Foulkes gadarnhau pa gymorth y gallwn ei ddarparu.

 

Cam i’w gymryd: Yr Ysgrifennydd i ofyn i Gareth Foulkes pa gymorth y gall y grŵp ei ddarparu ar gyfer ymgyrch Shine a Light 2023.

 

Unrhyw fater arall

 

Stephen Brattan-Wilson – codwyd mater yng nghyfarfodydd blaenorol y grŵp ynghylch y defnydd o gyfieithwyr anghofrestredig a oedd yn cael eu comisiynu gan Lywodraeth Cymru i gyfieithu dogfennau ymgynghori Llywodraeth Cymru. Yn anffodus, mae hyn yn parhau i ddigwydd. Cododd Stephen y mater gyda Suki Wescott, Rheolwr Polisi Anabledd ac Iaith Arwyddion Prydain Llywodraeth Cymru, gan ofyn a allai’r grŵp roi pwysau ar yr ochr gomisiynu ynghylch y mater hwn.

 

Awgrymodd y Cadeirydd y dylai'r Ysgrifennydd nodi'r pryderon hyn yn llythyrau'r grŵp at Lywodraeth Cymru.

 

Cam i’w gymryd: Yr Ysgrifennydd i godi pryderon y grŵp â Llywodraeth Cymru ynghylch y broses o gomisiynu cyfieithwyr nad ydynt wedi’u cymhwyso i wneud gwaith ar ymgynghoriadau.


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

6